Cwynodd Ms A am feddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd fod un o’i meddygon teulu wedi gwrthod ei gweld ym mis Mai 2022, ac, ar ôl iddi wneud dwy gŵyn, fod y Feddygfa wedi ei thynnu oddi ar y rhestr cleifion.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms A wedi gwneud cwyn i’r Feddygfa mewn perthynas â’i hymgynghoriad ar 16 Mai 2022. Er i’r Feddygfa ymateb iddi ar 30 Mai 2022, nid oedd wedi ymchwilio’n briodol i’w phryderon, yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni) (Cymru) 2011. O ran tynnu Ms A oddi ar restr cleifion y practis, daeth i’r casgliad nad oedd y Feddygfa wedi gweithredu’n unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn perthynas â dod â’i pherthynas broffesiynol â Ms A i ben.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Feddygfa ac er mwyn datrys cwyn Ms A, cytunodd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ddarparu ymateb cynhwysfawr i gŵyn Ms A ynghylch ei hymgynghoriad ar 16 Mai 2022, rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am fethu â dilyn canllawiau a gyhoeddwyd mewn perthynas â’i thynnu oddi ar restr y practis, ac adolygu polisi/gweithdrefn fewnol y practis ar gyfer tynnu cleifion oddi ar ei restr, er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddwyd.