Cwynodd Ms X am lythyr a anfonwyd ati gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Practis”) a’i rhybuddiodd am ei hymddygiad. Dywedodd Ms X fod y wybodaeth yn y llythyr yn gwrth-ddweud ei fersiwn hi o ddigwyddiadau a fersiwn ei Gweithiwr Cymorth, a oedd yn bresennol ar y pryd.
Canfu’r Ombwdsmon fod anghysondeb yn y fersiwn o ddigwyddiadau a ddarparwyd gan y Practis a’r hyn a ddarparwyd gan Weithiwr Cymorth Ms X. Fodd bynnag, yn absenoldeb tystiolaeth arall, nid oedd yn gallu cysoni’r gwahanol ddatganiadau mewn ffordd a fyddai’n caniatáu iddi ddod i gasgliad pendant. Wedi dweud hynny, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai datganiad y Gweithiwr Cymorth fod yn rhan o gofnodion y Practis i adlewyrchu’r gwahanol safbwyntiau.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis, ac er mwyn datrys cwyn Ms X, cytunodd y dylai, o fewn 10 diwrnod gwaith, roi cadarnhad ysgrifenedig i Ms X bod datganiad ei Gweithiwr Cymorth wedi cael ei atodi i’r llythyr a anfonwyd ati gan y Practis, a’i fod yn rhan o gofnodion y Practis.