Dyddiad yr Adroddiad

04/11/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202203324

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod y Feddygfa wedi’i ddadgofrestru o’r Practis am ei fod wedi cyflwyno cwyn. Cwynodd hefyd am nad oedd, er iddo gyflwyno ei gwynion, wedi cael ymateb llawn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd Mr S byth wedi cael ymateb i’w bryderon ac felly cysylltodd â’r Feddygfa. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Feddygfa y byddai’n ysgrifennu at Mr S ac yn ymddiheuro iddo am y pryderon a fynegwyd ganddo, o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl llythyr penderfyniad yr Ombwdsmon. Cytunodd y Feddygfa hefyd y byddai, i ddatrys y pryderon a fynegwyd gan Mr S, yn cynnig cyfarfod wyneb yn wyneb i weithredu ar unrhyw bryderon heb eu datrys. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr S.