Dyddiad yr Adroddiad

12/07/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202401942

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B i’w Practis Meddyg Teulu am y gofal a’r driniaeth a gafodd. Roedd hyn yn cynnwys pryderon am lythyr yr oedd wedi’i dderbyn gan feddyg teulu, pryderon am ei rheolaeth o boen, gwybodaeth anghywir mewn atgyfeiriadau ysbyty a mynediad at ei chofnodion meddygol. Cwynodd Mrs B i’r Ombwdsmon fod yr ymateb a gafodd gan y Feddygfa yn fyr ac nad oedd yn mynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a godwyd ganddi.

Nododd yr asesiad o gŵyn Mrs B nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi mynd i’r afael yn ddigonol â rhai agweddau ar ei chwyn.

Cytunodd y Feddygfa i roi ymateb pellach i Mrs B. Bydd hyn yn cynnwys ymateb i’w phryderon ynghylch rheoli poen a chadarnhad bod ei chofnodion wedi’u diweddaru i adlewyrchu ei halergeddau a’r mesuriad taldra presennol Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau a gymerwyd gan y Practis Meddyg Teulu yn rhesymol i setlo’r gŵyn hon a chafodd ei chau ar y sail honno.