Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Practis. Yn benodol, cwynodd fod y Practis wedi methu gweithredu ar lythyr gan Ymgynghorydd Orthopaedig yn gofyn i Mrs B gael ymchwiliadau dwysedd esgyrn ac nad oedd wedi adolygu ei defnydd o prednisolon (meddyginiaeth steroid) yn ddigonol ers mis Awst 2017, ac nad oedd wedi rhagnodi bioffosffonadau (meddyginiaeth i helpu gyda dwysedd esgyrn sy’n gallu lleihau wrth gymryd steroidau). Yn olaf, cwynodd na chafodd ei chyfeirio at arbenigwr ENT yn dilyn cais gan Awdiolegydd i wneud hynny.
Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, darparodd y Practis gopi o Ddadansoddiad Digwyddiad Arwyddocaol a wnaeth mewn ymateb i gŵyn Mrs B. Roedd hefyd yn cynnwys manylion y mesurau a gymerwyd i sicrhau nad oedd methiannau tebyg yn digwydd eto, a chytunodd i ymddiheuro i Mrs B. Ar ôl ystyried y wybodaeth hon, cynigiodd yr Ombwdsmon setliad ar gyfer y gŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon, ar ôl ymgynghori â Mrs B, ei bod yn briodol setlo’r gŵyn ar sail y camau gweithredu y cytunwyd arnynt gan ei bod yn annhebygol y byddai parhau â’r ymchwiliad yn cyflawni unrhyw beth pellach. Felly, daeth yr ymchwiliad i ben ar y sail honno.