Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w thad diweddar gan y Practis. Yn ogystal, cwynodd Mrs A am anawsterau cyfathrebu ac ymddygiad ac agwedd y staff. Roedd Mrs A yn anfodlon â’r ymateb i’r gŵyn a ddarparwyd gan y Practis.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu am arferion ymdrin â chwynion y Practis. Nid oedd y Practis wedi ymateb i’r gŵyn gyntaf a wnaed gan Mrs A, ac nid oedd ymateb y Practis i’w hail gŵyn yn rhoi sylw digonol i’r materion a godwyd. Achosodd hyn anhwylustod, straen a gofid i Mrs A a’i theulu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Practis, o fewn 4 wythnos, i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs A am y methiant i ymchwilio a darparu ymateb ffurfiol i’w chŵyn gyntaf, yr oedi cyn darparu ymateb ffurfiol i’w hail gŵyn, a’r methiant i roi sylw llawn i’r holl faterion yn ei hymateb i’r gŵyn. Yn ogystal, cytunodd y Practis i ddarparu ymateb pellach i gŵyn Mrs A, er mwyn mynd i’r afael â’r holl faterion a gynhwyswyd yn ei chwynion.