Cwynodd Mrs H fod ei Meddyg Teulu wedi methu â rheoli ei diabetes yn briodol a’i bod wedi ei thynnu oddi ar ei rhestr cleifion ar ôl iddi gyflwyno cwyn ffurfiol.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd digon o dystiolaeth o niwed i gyfiawnhau ymchwilio i gŵyn glinigol Mrs H. Fodd bynnag, ar ôl ystyried cyngor gan un o’i gynghorwyr proffesiynol, sy’n feddyg teulu profiadol, roedd yn poeni bod y Practis wedi methu â dilyn y broses briodol wrth benderfynu dadgofrestru Mrs H. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus bod y penderfyniad wedi cael ei wneud yn agos at gŵyn gysylltiedig a bod y Practis wedi dangos diffyg ystyriaeth o fregusrwydd posib Mrs H, o ystyried ei hanghenion meddygol parhaus.
Mewn ymateb i bryderon yr Ombwdsmon, cytunodd y Practis i gydnabod yn ffurfiol ei fod wedi methu â dilyn proses briodol wrth ddod i’w benderfyniad ac i ymddiheuro i Mrs H am yr anhwylustod a’r trallod a achosodd hyn iddi. Cytunodd hefyd i gynnull cyfarfod o’r partneriaid i drafod pryderon yr Ombwdsmon ac i ddarparu tystiolaeth ei fod wedi rhoi gweithdrefnau digonol ar waith i sicrhau mai dim ond yn unol â’r broses briodol a rheoliadau perthnasol y GIG a chanllawiau proffesiynol y bydd penderfyniadau yn y dyfodol i ddadgofrestru cleifion yn digwydd.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau hyn yn setliad rhesymol ar gyfer y gŵyn.