Dyddiad yr Adroddiad

18/05/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005720

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am yr ymateb i’r gŵyn a gafodd gan y Practis Meddyg Teulu o ran ei phryderon am driniaeth (neu ddiffyg triniaeth) o’i symptomau. Dywedodd fod hyn wedi digwydd wedyn o ganlyniad i Trawiad Isgenig Byrbarhaol a nerf wedi’i gwasgu. Dywedodd fod y driniaeth a gafodd yn annigonol a bod yr ymateb i’r gŵyn yn anghywir ac yn peri gofid iddi.
Cytunodd y Practis Meddygon Teulu i gynnal cyfarfod gyda Ms X i drafod ei phryderon clinigol a’i phryderon ynghylch delio â chwynion, yn ogystal â rhoi ymateb ysgrifenedig pellach iddi yn dilyn y cyfarfod. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol.