Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb yn llawn i’w bryderon am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddo gan y tîm poen parhaus ac atgyfeiriad at ffisiotherapi.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi rhwystro cyswllt e-bost gan Mr A ac wedi rhoi gwybod iddo am hyn mewn llythyr. Fodd bynnag, nid oedd y llythyr hwn yn egluro’n ddigonol i Mr A y dewisiadau a oedd ar gael iddo ar gyfer cyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd. Gan nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi derbyn ei gŵyn, nid oedd wedi ymchwilio nac ymateb i’w bryderon eto.
O fewn pythefnos, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi manylion i Mr A am yr opsiynau sydd ar gael iddo ar gyfer cyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd. Cytunodd hefyd i gynnal ymchwiliad i’r gŵyn a godwyd gan Mr A ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y tîm poen parhaus a’r atgyfeiriad at ffisiotherapi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn i gŵyn Mr A cyn pen 4 wythnos.