Cwynodd Ms N fod meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Feddygfa”) wedi methu mynd i’r afael â’i phryderon, ei bod wedi anfon llythyr yn cynnwys gwybodaeth feddygol i’w chyfeiriad cartref a rennir heb enw derbynnydd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Feddygfa wedi mynd i’r afael â’r agwedd hon ar ei chŵyn a achosodd rwystredigaeth ychwanegol i Ms N. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Ms N gyda’i hymddiheuriad a’i hesboniad o’r hyn a aeth o’i le.