Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202310284

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar chwaer gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phractis Meddyg Teulu.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd yn 2022, ond nid oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’w chwynion o dan broses gwyno Gweithio i Wella’r GIG. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon am, a chafodd, gytundeb y Bwrdd Iechyd i’r canlynol, o fewn 30 diwrnod gwaith:

· darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Mrs A, gan gynnwys ymateb gan y Practis Meddyg Teulu.
· ymddiheuro i Mrs A a chynnig taliad o £250 iddi i adlewyrchu’r ansicrwydd a achoswyd.