Cwynodd Mrs A na wnaeth Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Practis”), rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023, roi gofal a thriniaeth briodol i’w diweddar fam mewn perthynas â’i symptomau, ei chyflwr a’i hanes meddygol blaenorol (gosod falf aortig newydd yn y galon yn 2007). Roedd Mrs A yn pryderu’n arbennig am oedi amhriodol a chyfleoedd a gollwyd i drin ei mam a’i hatgyfeirio ar frys at y clinig methiant y galon. Yn anffodus, bu farw ei mam ym mis Mai 2023.
Canfu’r ymchwiliad, er bod cyfleoedd dysgu i’r Practis, a hynny’n bennaf o ran cyflymu ymchwiliadau ar gyfer cleifion sy’n dirywio, fod y gofal a roddwyd wedi bod o safon briodol. Yn bwysig ddigon, roedd y Practis wedi ceisio cyflymu ecocardiogram ar gyfer mam Mrs A ym mis Tachwedd 2022, a dyma oedd yr ymchwiliad allweddol iddi hi (yn unol â chanllaw Cenedlaethol NICE (2021) 208: “Heart valve disease presenting in adults: investigation and management”, sy’n rhoi lle canolog i fonitro ecocardiograffig yn y trefniadau rheoli). Felly, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.