Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202303418

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio’n briodol i’w symptomau yn ystod yr ymgynghoriadau ym mis Mehefin a mis Hydref 2021, ac a fyddai cael diagnosis yn gynt na mis Awst 2022 wedi arwain at driniaeth gynharach ar gyfer ei ganser oroffaryngeol (math o ganser y pen a’r gwddf).

Canfu’r ymchwiliad fod yr ymgynghoriadau ar 14 Mehefin a 5 Hydref yn cyrraedd safon glinigol dderbyniol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod cyfleoedd wedi’u colli i atgyfeirio Mr A am ymchwiliad pellach yn ystod yr ymgynghoriadau hyn. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.

O ran p’un a fyddai cael diagnosis yn gynt wedi arwain at driniaeth gynharach ar gyfer canser oroffaryngeol Mr A, canfu’r ymchwiliad fod ymgynghoriad diweddarach gyda Mr A ar 31 Mai 2022 yn glinigol briodol, ond y dylai’r gweithdrefnau y gofynnwyd amdanynt fod wedi cael eu cynnal yn gynt. Mae’n debygol y byddai hyn wedi arwain at ddechrau triniaeth Mr A yn gynharach. Er ei bod yn debygol y byddai cynllun triniaeth Mr A wedi bod yr un fath pe bai wedi cael diagnosis yn fwy prydlon, achosodd yr oedi drallod meddwl y gellid bod wedi’i osgoi i Mr A, a oedd yn anghyfiawnder iddo. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ystyrlon i Mr A am y methiannau a nodwyd ac i dalu iawndal o £500 iddo. Hefyd, cytunodd i atgoffa clinigwyr i ystyried cyflymu triniaethau biopsi pan fydd tystiolaeth bod mas newydd a risg o falaenedd, ac i atgoffa clinigwyr ynghylch y polisi ar gyfer cleifion sy’n dod i’r ysbyty gyda mas ar y tonsilau i drefnu’r holl sganiau delweddu yn ystod yr apwyntiad cyntaf.