Roedd Ms A yn bryderus ynghylch y gofal a roddwyd i’w diweddar dad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phractisau Meddygon Teulu yn ardal y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd, wrth ymateb i’w chŵyn, wedi amgáu’r llythyrau gan y Practisiau Meddygon Teulu (er bod llythyr ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn nodi eu bod ynghlwm wrth yr ohebiaeth). Roedd Ms A hefyd yn ddig na chafodd gopi o grynodeb yr Archwilydd Meddygol.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi amgáu’r llythyrau gan y Practisiau Meddygon Teulu gyda’i lythyr at Ms A. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am fethu ag amgáu’r llythyrau hynny gyda’i ymateb i’r gŵyn ac i roi’r llythyrau hynny i Ms A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gymryd y camau hyn o fewn 1 mis.
O ran crynodeb yr Archwilydd Meddygol, rhoddodd yr Ombwdsmon wybodaeth i Ms A ynghylch sut i gael gafael ar y ddogfen honno.