Dyddiad yr Adroddiad

07/02/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204940

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan anafodd ei phen-glin. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y gofal a ddarparwyd i Ms C yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 24 Mehefin 2020, ac yn yr apwyntiad canlynol fel claf allanol ar 13 Gorffennaf, yn briodol. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried a oedd y gofal a roddwyd mewn apwyntiad ffisiotherapi ar 23 Gorffennaf yn briodol, gan gynnwys a gymerwyd camau priodol, a gofynnwyd am ail farn o fewn amserlen resymol gan y ffisiotherapydd. Roedd hefyd yn ystyried a oedd yr ail farn yn briodol. Yn olaf, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd ymateb y Bwrdd Iechyd ynghylch rôl y ffisiotherapydd yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad, er bod yr asesiadau clinigol ar 24 Mehefin a 13 Gorffennaf yn briodol, y dylid bod wedi ymchwilio ymhellach i’r canfyddiadau pelydr-x. Fodd bynnag, nid oedd yn bosib pennu’n bendant, hyd yn oed pe bai’r Bwrdd Iechyd wedi nodi’n gynharach bod sgan delweddu cyseiniant magnetig (“MRI” – defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu delweddau manwl o du mewn y corff) neu driniaeth yn angenrheidiol, y byddent wedi digwydd yn gynt neu y byddai canlyniad Ms C wedi bod yn wahanol. Wedi dweud hynny, roedd yr ansicrwydd yn anghyfiawnder i Ms C, felly cafodd y gŵyn ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad fod y driniaeth ffisiotherapi a roddwyd ar 23 Gorffennaf yn ddigonol yn gyffredinol a bod y cynllun rheoli i geisio barn arbenigol yn briodol. Cafwyd bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn ynghylch rôl y ffisiotherapydd yn ddigonol. Bu oedi byr cyn ceisio ail farn, ond ni ddarparwyd ail farn, ac nid aeth y ffisiotherapydd ar drywydd yr atgyfeiriad chwaith. Fodd bynnag, roedd hyn oherwydd bod Ms C wedi dweud wrth y ffisiotherapydd ei bod yn ceisio triniaeth breifat. Felly, ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylid ymddiheuro i Ms C am y methiannau a nodwyd ac y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa clinigwyr orthopedig i ymchwilio ymhellach i ganfyddiadau pelydr-x perthnasol, yn ogystal â chynnal adolygiad o’r prosesau sydd ar waith i fynd ar drywydd cleifion sy’n dangos symptomau acíwt i sicrhau bod symptomau’n cael eu datrys yn foddhaol.