Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ynglŷn â’i syst epidermaidd. Yn benodol, dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu ar ganlyniadau sganiau a gynhaliwyd yn 2013 a 2017, a oedd yn golygu bod modd i’r clefyd ddatblygu.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn mynd i’r afael â’r gŵyn bod y Bwrdd Iechyd wedi methu gweithredu ar ganlyniadau’r sgan. Ar ben hynny, nid oedd yr ymateb yn rhoi digon o dystiolaeth i gefnogi barn y Bwrdd Iechyd bod y gofal cynharach a roddwyd yn rhesymol nac ynghylch y casgliad na fu tor-dyletswydd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb i fynd i’r afael â’r materion sydd heb eu datrys o fewn 12 wythnos. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Ms A a rhoi esboniad ynghylch y methiant i fynd i’r afael â’r materion yn yr ymateb gwreiddiol.