Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300378

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A am y gofal a dderbyniodd gan y Bwrdd Iechyd am ei gyflwr fasgwlaidd. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’w bryderon:

a) na thrafodwyd yr holl opsiynau priodol gyda Mr A ar gyfer rheoli ei gyflwr fasgwlaidd cyn ei gyfeirio i gael llawdriniaeth yn Ionawr 2020.
b) na chafwyd ei ganiatâd gwybodus i’r llawdriniaeth fasgwlaidd, gan sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’r holl risgiau sylweddol yn gysylltiedig â’r llawdriniaeth.
c) bod y gwasanaeth fasgwlaidd wedi methu â darparu gofal ôl-lawdriniaeth a dilynol, yn enwedig mewn ymateb i’w gwynion o boen yn y cyhyrau a diffygion rhywiol.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsman y cwynion. Casglodd yr ymchwiliad fod rheolaeth y Bwrdd Iechyd o gyflwr fasgwlaidd Mr A o fewn yr ystod o ofal derbyniol. Yn benodol, ei bod yn rhesymol nad oedd y Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol a fu’n gyfrifol am ofal Mr A wedi trafod na chynnig llawdriniaeth lai ymwthiol yn Ionawr 2020.

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, penderfynodd yr ymchwiliad ar sail beth oedd fwyaf tebygol ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod y clinigwyr a fu’n trin Mr A wedi rhannu gwybodaeth briodol â Mr A am y risgiau perthnasol yn gysylltiedig â’r llawdriniaeth. Roedd hyn yn cynnwys y cymhlethdodau y cwynodd amdanynt wedyn ond a ddywedodd na wyddai amdanynt cyn ei lawdriniaeth. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr A wedi derbyn copïau o’r ffurflenni caniatâd perthnasol. Er nad oedd hyn yn fethiant digon difrifol i dderbyn y gŵyn, roedd yn gyfle wedi’i golli i sicrhau y gallai fynd â’r ddogfen i ffwrdd gyda fo’n disgrifio’r risgiau perthnasol cyn ei lawdriniaeth. Gallai hyn fod wedi rhoi cyfle iddo ystyried y risgiau hynny’n fwy manwl. Fe wnaeth yr Ombwdsmon felly wahodd y Bwrdd Iechyd i rannu copi o’r adroddiad terfynol â’r Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol ac atgoffa’r holl glinigwyr llawfeddygol yn Ysbyty Glan Clwyd o bwysigrwydd sicrhau bod cleifion wedi llawn ddeall unrhyw wybodaeth a roddir iddynt am y risgiau sy’n gysylltiedig â llawdriniaeth. Penderfynodd yr ymchwiliad hefyd fod y gofal dilynol a’r monitro ar ôl llawdriniaeth Mr A o fewn yr ystod o ymarfer derbyniol.