Cwynodd Mrs A fod oedi afresymol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran sicrhau triniaeth glinigol briodol i’w merch, B, rhwng mis Mawrth 2021 – pan aeth i Ysbyty Athrofaol Cymru am y tro cyntaf ar ôl datgymalu ei gên – a mis Hydref 2021 pan gafodd ei chyfeirio at ysbyty arbenigol ar gyfer plant y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd i gael triniaeth.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd oedi afresymol ar y cyfan o ran sicrhau triniaeth briodol i B a bod y strategaeth reoli a ddilynir gan y Bwrdd Iechyd yn glinigol briodol, ac eithrio ar gyfer cysondeb adolygiadau a manylion y cofnodion ynglŷn â bandiau elastig a oedd wedi’u gosod ar ddannedd B i geisio atal ei gên rhag symud tra oedd yn aros am driniaeth a fyddai’n ei gwella. Felly, cafodd y gŵyn ei chadarnhau i’r graddau cyfyngedig iawn hyn a dim ond o ran rheoli bandiau B.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i B a Mrs A am y methiannau a nodwyd ynglŷn â rheoli bandiau B. Cytunodd hefyd i atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd adolygu bandiau’n rheolaidd a chofnodi manylion y driniaeth sy’n cael ei hargymell.