Dyddiad yr Adroddiad

04/15/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202301824

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Gwnaethom ymchwilio i gŵyn a wnaethpwyd gan Mrs B am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol:

a)Pa mor rhesymol oedd y penderfyniad i beidio â rhoi wyneb newydd ar badell ei phen-glin yn ystod y llawdriniaeth i osod ail ben-glin gyfan newydd ar 1 Medi 2021.
b)A gafodd yr ymchwiliad a’r asesiadau clinigol priodol i symptomau ei phoen barhaus yn y ben-glin eu cynnal ar ôl ei llawdriniaeth, ac a wnaed hynny mewn modd amserol. Yn benodol, i ystyried y cyfnod rhwng 18 Hydref 2021 (yr apwyntiad cyntaf ar ôl y llawdriniaeth fel claf allanol gyda’r Llawfeddyg Ymgynghorol) ac 8 Mehefin 2022 (dyddiad ei hymgynghoriad preifat a’r penderfyniad i roi wyneb newydd ar y pen-glin).

Beth wnaethom ni ei ddarganfod

Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i beidio â rhoi wyneb newydd ar badell pen-glin Mrs B yn ystod y llawdriniaeth i osod ail ben-glin gyfan newydd ar 1 Medi 2021 yn rhesymol, yn ogystal â’r ymchwiliad a’r asesiadau clinigol i symptomau ei phoen barhaus yn y ben-glin rhwng 18 Hydref 2021 ac 8 Mehefin 2022. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs B.