Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202302461

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A ar ran ei gŵr, Mr A, am yr asesiad a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) ar gyfer rhwygiad i’w arddwrn chwith pan aeth i Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru (“yr Ysbyty”) ar 24 Awst 2022.

Canfu’r ymchwiliad na chafodd Mr A asesiad a thriniaeth briodol pan aeth i’r Ysbyty. Ni chafodd cofnodion cywir eu cadw o’r driniaeth a gafodd, a chollwyd cyfleoedd i Mr A gael ei atgyfeirio am driniaeth fwy amserol ar gyfer ei anaf. Ni ystyriwyd defnyddio gwasanaeth cyfieithu ychwaith er nad oedd Mr A yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Felly, cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr a Ms A. Cytunodd hefyd i atgoffa’r clinigydd a oedd wedi trin Mr A o bwysigrwydd cadw cofnodion cywir ac i sicrhau ei bod yn gyfarwydd â chanllawiau’r Bwrdd Iechyd ar drin anafiadau i ddwylo yn ogystal â Pholisi Gwasanaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd y Bwrdd Iechyd. Yn ogystal, cytunodd i ddatblygu polisi ar atgyfeiriadau am driniaeth ar gyfer cleifion sy’n byw y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd ac i gwblhau adolygiad o’i Bolisi Gwasanaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ac i wneud yn siŵr bod yr holl staff perthnasol yn ymwybodol ohono.