Dyddiad yr Adroddiad

03/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202306657

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a dderbyniodd ei thad, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) pan gafodd godwm ddi-dyst yn oriau man y bore ar 10 Awst 2023. Fe wnaethom ymchwilio i weld a oedd asesiadau risg o gael codwm a mesurau atal priodol yn eu lle ar gyfer Mr A, ac a oedd yn cael ei fonitro’n briodol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod yr holl asesiadau risg priodol yn eu lle i ystyried risg Mr A o gael codwm, gan gynnwys a ddylid defnyddio rheiliau ochr gwely. Roedd yn briodol iddo gael rheiliau gwely yn sownd wrth ben ucha’r gwely (“rheiliau pen uchaf”). Roedd y gwely ar ei osodiad isaf ac roedd potel bi-pi a chloch alw o fewn cyrraedd i Mr A. Nid oedd Mr A yn ddryslyd na’n ffwndrus ac roedd yn codi o’i wely ar ei ben ei hun. Nid oedd unrhyw beth arall y dylid fod wedi’i wneud i atal codwm Mr A. Ni chadarnhawyd y gŵyn.