Cwynodd Miss A am sawl agwedd ar safon y gofal a dderbyniodd Mr T gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf rhwng Ionawr a Mai 2019 ar ôl cael ei dderbyn i Ysbyty Tywysog Siarl ac Ysbyty Cwm Cynon yn dilyn llawdriniaeth. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gwynion Miss A oedd yn cynnwys pryderon am:
• gofal ôl-lawdriniaeth gan y gwasanaeth nyrsys ardal
• lefelau bwyd a diod, diffyg maeth a rheoli ei golli pwysau
• rheoli a monitro ei ddiabetes
• gofal stoma
• gofal briwiau
• adnabod haint a sepsis a rheoli haint
• arennau’n gweithio’n llai effeithiol
• lefelau haemoglobin isel
• trefniadau i ddarparu gofal ac ôl-apwyntiadau ar ôl ei ryddhau
• trin cwynion
Ein canfyddiadau
Cadarnhaodd yr Ombwdsman rai agweddau ar y gŵyn.
Cadarnhaodd y cwynion yn ymwneud â gofal gan y gwasanaeth nyrsys ardal a’r oedi gydag ymateb i’r gŵyn. Yn ystod arhosiad Mr T fel claf mewnol, cafwyd bod diffygion gyda chofnodi ei gydbwysedd hylifol a gyda rheoli a gofalu am stoma Mr T gan y staff nyrsio. Cadarnhawyd yr agweddau hyn ar y gŵyn hefyd. Ni ddaeth yr Ombwdsmon o hyd i unrhyw ddiffygion gyda monitro diabetes, statws maeth, gofal haint na gofal briwiau Mr T. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y cwynion am y driniaeth feddygol o’i haint, perfformiad ei arennau na’i ddiabetes.
Penderfynodd yr Ombwdsmon wneud argymhellion ar ddarparu gofal stoma, monitro cydbwysedd hylifol a hyfforddiant i’r staff nyrsio.