Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308349

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cymryd 18 mis i roi diagnosis o doriad i’w throed ac na chafodd gyngor na thriniaeth briodol. Dywedodd Miss A ei bod yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi adolygu’r lluniau pelydr-X ac felly heb sefydlu a oedd yr adroddiadau pelydr-X yn gywir. Heb y wybodaeth yma, ni allai’r Bwrdd Iechyd gadarnhau a oedd gofal a thriniaeth Miss A yn briodol ac ni allai ystyried ei atebolrwydd perthnasol yn iawn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i adolygu’r lluniau pelydr-X a chywirdeb yr adroddiadau, cadarnhau a oedd y gofal a’r driniaeth yn briodol, ac ail-ystyried ei atebolrwydd perthnasol yn unol â’r Rheoliadau Gweithio i Wella, o fewn 20 diwrnod.