Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307982

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr, Mr A, gan y Bwrdd Iechyd pan gafodd lawdriniaeth ddydd ym mis Ionawr 2023. Ar ôl y driniaeth, roedd Mr A wedi cael poen a chochni ar draws y ddwy ffolen. Datblygodd pothelli dros y diwrnodau canlynol a achosodd boen ac anghysur iddo, ac nid oedd Mr A yn gallu eistedd na gweithio am rai wythnosau. Derbyniodd Mr a Mrs A wybodaeth anghyson gan weithwyr iechyd proffesiynol ynghylch sut roedd hyn wedi digwydd.

Roedd Mrs A yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn. Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad trylwyr i’r gŵyn, a oedd yn golygu siarad â’r rhan fwyaf o’r staff a oedd yn ymwneud â gofal Mr A. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos bod y Bwrdd Iechyd wedi ystyried barn un ymarferydd a oedd wedi mynegi barn wahanol. Nid oedd yr ymateb i’r gŵyn yn rhoi sylw llawn i’r gŵyn, ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr a Mrs A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a derbyniodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ganfod ac ystyried barn yr ymarferydd, ailystyried achosion yr anafiadau a ddioddefodd Mr A, a darparu ymateb manylach i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon heb eu datrys. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymddiheuro i Mr a Mrs A am fethu â mynd i’r afael â’r pryderon wrth ymchwilio i’r gŵyn ac wrth ddarparu ei ymateb.