Dyddiad yr Adroddiad

04/23/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308472

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael nac ymchwilio’n briodol i bob agwedd ar ei chŵyn gan gynnwys y rheolaeth a’r gofal a gafodd ei mam yn ystod ei chyfnod fel claf mewnol yn yr Ysbyty. Roedd pryderon Ms A yn cynnwys y ffaith na roddwyd digon o feddyginiaeth lleddfu poen i’w mam ac na adawyd teclyn galw gyda hi i’w galluogi i alw am gymorth. Mynegodd Ms A bryderon hefyd am staff nyrsio’n cam-drin ei mam ar lafar, a chyfeiriodd hefyd at alwad ffôn “bygythiol” a gafodd yn nes ymlaen lle dywedodd ei bod wedi cael ei bygwth â gwrth-gwynion yn erbyn ei mam pan gadarnhaodd ei bod am fwrw ymlaen â’i chŵyn.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, ar sail y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd, na ellid cyflawni dim mwy ac na fyddai’n gymesur ymchwilio i agwedd clinigol cwyn Ms A. O ran y materion yn ymwneud ag ymddygiad/cyswllt staff, unwaith eto, penderfynwyd na fyddai ymchwiliad yn gymesur nac yn rhesymol o ystyried y diffyg tystiolaeth ategol annibynnol, byddai’n anodd dod i unrhyw ganfyddiadau pendant pe bai’r wybodaeth hon yn cael ei herio, a gyda threigl amser byddai’n anodd profi/sefydlu beth gafodd ei ddweud neu ddim ei ddweud sy’n ei gwneud hi’n anodd dod i unrhyw ganfyddiadau ystyrlon.

Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o’r ffordd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â chŵyn Ms A o ystyried y methiant i fynd i’r afael â phryderon Ms A. Roedd hyn yn golygu na chafodd hi’r cyfle i sicrhau bod ei phryderon yn cael eu hystyried a’u hymchwilio’n brydlon, a bod cyfleoedd i’r Bwrdd Iechyd ddysgu gwersi o ran delio â chwynion yn achos Ms A wedi cael eu colli.

Fel rhan o ddatrysiad cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am beidio ag ymateb yn llawn i bob agwedd ar ei chŵyn a thalu swm o £150 iddi am yr amser a’r drafferth a’r anhwylustod o orfod mynd â’i chŵyn ymhellach. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd adolygu ei ddull o ymdrin â chwynion a nodi unrhyw wersi y gellid eu dysgu a rhannu’r rhain â Ms A a’r swyddfa hon.