Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308210

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Lleisiodd Mrs S bryderon i’r Bwrdd Iechyd am y gofal a dderbyniodd ei gŵr yn ystod ei arhosiad ysbyty yn Ionawr 2022. Dywedodd Mrs S fod ei gŵr wedi dal Covid-19 yn yr ysbyty ac wedi cael meddyginiaeth teneuo’r gwaed ychwanegol a oedd, yn ei barn hi, wedi achosi gwaedu mewnol. Mewn gohebiaeth ym mis Awst 2022, gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r pryderon hyn a rhoi esboniad manwl am y dirywiad cyflym yn iechyd ei gŵr yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty.

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb ar 25 Gorffennaf 2023. Eglurodd ei fod yn credu bod Mr S wedi dal Covid-19 cyn ei dderbyn. Roedd yn cydnabod bod dos ychwanegol o feddyginiaeth teneuo’r gwaed wedi’i roi i Mr S ond dywedodd na chredai y byddai hyn wedi achosi unrhyw niwed ac nad oedd tystiolaeth bod gan Mr S waedu mewnol. Eglurodd fod iechyd Mr S wedi dirywio oherwydd Covid-19 a bod ei arennau a’i ysgyfaint wedi methu o ganlyniad. Ysgrifennodd Mrs S ddatganiad yn ymateb i ymateb y Bwrdd i’w chŵyn, yn codi nifer o gwestiynau newydd, ac a anfonwyd at y Bwrdd Iechyd ar 11 Hydref 2023.

Casglodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn cydnabod y gŵyn wreiddiol a bod yr ymateb i’r gŵyn wedi cael ei wneud bron i ddau fis ar ôl y chwe mis a ganiateir o dan y broses trin cwynion. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am yr oedi ac wedi rhoi diweddariadau drwy gydol yr ymchwiliad, roedd tystiolaeth hefyd o waith rheoli dogfennau gwael gan gynnwys cais arall am ganiatâd er bod y caniatâd eisoes wedi cael ei roi. Hefyd, roedd y llythyr dyddiedig 11 Hydref, yn lleisio pryderon pellach gan Mrs S, wedi cael ei esgeuluso a heb dderbyn cydnabyddiaeth nac ymateb.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am effaith gronnus y diffygion trin cwynion hyn a chynnig talu £100 i gydnabod y ffaith bod hyn wedi achosi mwy o amser a thrafferth i Mrs S gyda mynd ar drywydd ei chŵyn nag y byddai’n ddisgwyliedig fel arfer. Cytunodd hefyd i roi ymateb, yn unol â’r broses trin cwynion, i’r pryderon pellach a godwyd ar 11 Hydref 2023.