Dyddiad yr Adroddiad

03/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308931

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â rhoi ymateb pellach i’w gŵyn i roi sylw i’r pryderon ychwanegol a gododd mewn cyfarfod ym mis Hydref 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi ac amryfusedd wedi bod gyda’r ymateb a oedd, meddai, wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ei ymateb pellach i’r gŵyn ac i ymddiheuro iddo am yr oedi a’r anhwylustod a achoswyd, o fewn 30 diwrnod gwaith.