Cwynodd Miss B fod Cyngor Gwynedd wedi methu ag ystyried yn briodol ei chais am estyniad i’w thrwydded alcohol ac nad oedd wedi ymateb yn llawn i’w chŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anwybyddu un rhan o gŵyn Miss B ac, o ganlyniad, nid ymatebwyd i hyn. Dywedodd fod hynny wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro wrth Miss B ac i ddarparu ymateb ychwanegol i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.