Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn y gallai unigolyn a oedd yn aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanusyllt (“y Cyngor Cymuned”) a Chyngor Sir Penfro (“y Cyngor”) fod wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi cysylltu’n amhriodol ag uwch aelod o staff y Cyngor Sir i godi pryderon ynghylch penodi unigolyn yn Glerc parhaol i’r Cyngor Cymuned, ar y sail bod yr unigolyn eisoes yn gweithio i’r Cyngor Sir. Er nad oedd y Cyngor Sir na’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu i’r unigolyn ymgymryd â’r ddwy rôl, awgrymodd yr Achwynydd fod yr aelod o staff yn anhapus bod y cyswllt hwn wedi’i wneud a phenderfynwyd gwrthod rôl y Clerc.
Yn fuan ar ôl cychwyn yr ymchwiliad, fe’n hysbyswyd gan yr Achwynydd ei bod yn dymuno tynnu ei chwyn yn ôl. Wrth benderfynu a fyddai parhau gyda’r ymchwiliad er budd y cyhoedd, ystyriwyd nifer o ffactorau, yn benodol dymuniadau’r achwynydd, nad oedd yr unigolyn ei hun wedi cwyno ac nad oedd unrhyw bryderon wedi’u codi gan unrhyw aelod perthnasol o staff y Cyngor Sir neu’r cyhoedd ehangach. Er y gallai gweithredoedd yr Aelod fod wedi dylanwadu ar yr unigolyn i wneud y penderfyniad i wrthod y rôl, ni wnaethant arwain at unrhyw niwed uniongyrchol iddo (h.y. ni chafodd ei rôl barhaol yn y Cyngor Sir ei heffeithio’n negyddol). Roedd y penderfyniad i wrthod rôl y Clerc yn un yr oedd ganddo hawl i’w gymryd. Er ei fod yn aflonyddgar, roedd yr effaith felly wedi’i chyfyngu’n bennaf i’r anghyfleustra a’r gost i’r Cyngor Cymuned wrth ymgymryd ag ymarfer recriwtio pellach, ac felly, nid oeddem yn ystyried ei fod, ynddo’i hun, yn ddigon niweidiol, nac er budd y cyhoedd, i gyfiawnhau parhau ag ymchwiliad.
Yn wyneb hyn, ystyriais na fyddai ymchwilio ymhellach i’r mater a phenderfynwyd terfynu’r ymchwiliad yn gymesur nac er budd y cyhoedd.