Cwynodd Ms L ei bod wedi cael anawsterau gyda’i thaliadau Treth Gyngor a deall y symiau a gyflwynwyd iddi. Cwynodd ymhellach fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â darparu cymorth a chefnogaeth i ddatrys ei phryderon.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Cyngor wedi cyfathrebu taliadau’r Dreth Gyngor yn briodol i Ms L a dywedodd fod hyn wedi achosi dryswch a rhwystredigaeth iddi.
Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms L a darparu crynodeb manwl o falans presennol y Dreth Gyngor, a’r symiau wrth symud ymlaen. Cytunodd y Cyngor y byddai’n gweithredu hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.