Dyddiad yr Adroddiad

19/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Y dreth cyngor

Cyfeirnod Achos

202409166

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot â chyfrif treth gyngor ei ddiweddar dad. Dywedodd Mr A fod gohebiaeth y Cyngor yn cynnwys iaith ymosodol ddiangen a’i bod yn brin o dosturi. Dywedodd Mr A fod y Cyngor yn cydnabod lle gellid gwneud gwelliannau ond gwrthododd wneud unrhyw newidiadau ystyrlon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi rhoi gwybod i Mr A y byddai’n ymchwilio i’r materion a godwyd, nad oedd yn glir pa gamau y byddai’n eu cymryd, ac nad oedd yn darparu amserlenni. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 2 fis, yn adolygu geiriad y dogfennau sy’n cael eu hanfon at gynrychiolwyr personol trethdalwyr sydd wedi marw, yn adolygu ei system bresennol er mwyn gallu cyhoeddi llythyrau atgoffa newydd yn unol â’r broses adfer, ac i roi crynodeb ysgrifenedig i Mr A o ganlyniad yr adolygiad.