Cwynodd Mr A, pan ofynnodd am newid dyddiad ei ddebyd uniongyrchol ar gyfer Treth y Cyngor, na roddodd Cyngor Sir Penfro wybod iddo y byddai ei daliadau misol yn cynyddu.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fod wedi hysbysu Mr A am y cynnydd mewn taliadau. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i hysbysu’r holl gwsmeriaid am y cynnydd posib mewn rhandaliadau pan fyddant yn gofyn am newid dyddiad talu, cyhoeddi’r wybodaeth yn yr adran berthnasol ar ei wefan, a chynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mr A am y camau a gymerwyd i wella’r gwasanaeth, o fewn 20 diwrnod gwaith.