Dyddiad yr Adroddiad

28/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall)

Cyfeirnod Achos

202401544

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr R nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi ymateb i gŵyn a wnaeth ynghylch cais cynllunio.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cofnodi cwyn ffurfiol gan ei fod yn ystyried bod y pryderon yn rhan o waith achos parhaus. Ni roddodd wybod i Mr R sut roedd yn delio â’r materion a godwyd. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mr R. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr R, o fewn wythnos, i ymddiheuro a chadarnhau ei fod wedi cofnodi’r gŵyn yn ffurfiol yng Ngham 2. Cytunodd hefyd i gwblhau ei ymchwiliad o fewn 4 wythnos.