Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Sir Powys wedi cwblhau ei drafodaethau ar faterion heb eu datrys sy’n ymwneud ag ardal o dir wrth ymyl ei heiddo sy’n cael ei hystyried yn briffordd, fel yr amlinellwyd yn ei ymateb i gŵyn Cam 2 o fis Tachwedd 2023.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r trafodaethau nac wedi diweddaru Ms A mewn cyfnod amser priodol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n anfon ymddiheuriad ysgrifenedig at Ms A o fewn pythefnos am yr amser yr oedd wedi bod yn aros i’r camau gael eu cymryd, ac o fewn 8 wythnos y byddai’n cwblhau trafodaethau ar y materion sy’n weddill ac yn hysbysu’r partïon perthnasol, fel yr amlinellir yn yr ymateb i gŵyn Cam 2.