Cwynodd Ms G na wnaeth Cyngor Sir Ceredigion ymateb i gŵyn, na darparu gwybodaeth, yn ymwneud â chŵyn a godwyd ganddi ym mis Ebrill 2024, ynglŷn chyflwr gwael wal gymunedol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi anwybyddu’r gŵyn. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Ms G ar unwaith yn ymddiheuro am ei esgeulustod, a chadarnhau bod y gŵyn wedi’i chofnodi ar Gam 2 ei broses gwyno, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd hefyd i roi ei ymateb o fewn pedair wythnos.