Cwynodd Mr P fod Cyngor Sir Ddinbych wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w gŵyn, a anfonodd at y Cyngor ynghylch cyflwyno system casglu gwastraff newydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr P ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, nid oedd ymateb y Cyngor yn sylweddol, ac nid oedd yn rhoi gwybod i Mr P sut y gallai uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2 y broses gwyno fewnol, os oedd yn dal yn anhapus. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr P i ymddiheuro am y methiant, ac i gyhoeddi ymateb cwyn Cam 2 o fewn pythefnos.