Ein gweledigaeth
I gael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ein huchelgais
- Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
- Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella
- Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
- Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Ein Hegwyddorion
Rydym
- yn annibynnol
- yn ddiduedd
- yn deg
- yn agored i bawb sydd ein hangen.
Ein Nodau Strategol
Nod Strategol 1: Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
Rydym yn cyflawni gwasanaeth effeithlon, empathig a chymesur sy’n cefnogi cyfiawnder ac sy’n gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Nod Strategol 2: Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
Mae pobl ledled Cymru yn ymwybodol o’n swyddfa, yn deall sut y gallwn eu helpu ac mae ein gwasanaeth yn berthnasol ac yn hygyrch.
Nod Strategol 3: Cynyddu effaith ein gwaith gwella rhagweithiol
Rydym yn cyfrannu at welliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, trwy waith safonau cwynion, dysgu ehangach o gwynion ac ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain a chefnogi safonau uchel o ymddygiad ymhlith cynghorwyr.
Nod Strategol 4: Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol
Rydym yn cynnal ac yn gwella defnydd effeithlon ac effeithiol o’n hadnoddau ariannol, staff, a TG, ac yn sicrhau llywodraethu, atebolrwydd a thryloywder da.