
Gwahardd Plant o'r Ysgol
Cyflwyniad
Mae penderfyniad i wahardd disgybl o’r ysgol yn cael ei wneud gan y pennaeth, a’i adolygu gan lywodraethwyr yr ysgol. Os cadarnheir y penderfyniad, ac mae’r gwaharddiad yn un parhaol, mae gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os yw’r panel yn cadarnhau’r gwaharddiad, rhaid i’r cyngor lleol, fel yr Awdurdod Addysg Lleol, sicrhau bod y disgybl yn derbyn addysg arall sy’n addas.
Yr hyn gallwn ei wneud
Byddwn yn gallu edrych ar sut y deliodd y panel â’ch apêl. Gallai hyn gynnwys:
- a wnaeth y panel ddilyn y gweithdrefnau cywir ai peidio, e.e. a oedd y panel wedi’i gyfansoddi’n iawn, ac yn annibynnol; a wnaethoch dderbyn y dystiolaeth y byddech yn dibynnu arni mewn da bryd cyn y gwrandawiad ai peidio;
- a gafodd y gwrandawiad ei gynnal yn deg, e.e. a oeddech yn cael galw tystion; a wnaeth y panel fodloni ei hun: (a) bod y digwyddiadau a arweiniodd at y gwaharddiad wedi digwydd, ac os do, (b) mai gwahardd oedd y peth iawn i’w wneud.
Byddwn hefyd yn gallu edrych ar sut y deliodd yr Awdurdod Addysg Lleol â chi wedyn. Gallai hyn gynnwys:
- cwyn na wnaeth yr Awdurdod Addysg roi addysg llawn amser boddhaol arall yn ddigon buan, neu ddim o gwbl;
- cwyn nad oedd yr addysg arall a ddarparwyd yn addas i alluoedd eich plentyn, i’w botensial dysgu neu unrhyw anghenion addysgol arbennig;
- cwyn ynghylch oedi yn setlo eich plentyn mewn ysgol newydd.
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni fyddwn yn gallu: :
- edrych ar y rheswm dros wahardd eich plentyn, nac ar unrhyw beth yn ymwneud â disgyblaeth yn yr ysgol, nac ar faterion cyflogaeth yng nghyswllt aelodau o’r staff.
- mynd yn groes i benderfyniad y pennaeth, y llywodraethwyr neu’r panel apêl.
- gorchymyn yr ysgol neu’r Awdurdod Addysg Lleol i adael i’ch plentyn ddychwelyd i’r ysgol, neu i roi eich plentyn mewn ysgol arall.
Materion i gadw mewn cof
Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi fod wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn y gwaharddiad i lywodraethwyr cyn cwyno iddo ef. Fodd bynnag, efallai na fydd gennych hawl bob tro i gyflwyno eich achos yn bersonol i’r llywodraethwyr.
Nid oes gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol mewn achos lle mae’r gwaharddiad yn un am dymor penodol.
Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le gyda’r ffordd y deliodd y panel gyda’ch apêl, byddwn efallai yn gofyn i banel newydd glywed eich apêl eto.
Os oedd yr Awdurdod Addysg Lleol ar fai mewn rhyw ffordd, efallai y byddwn yn gofyn iddo wneud iawn am unrhyw ddiffygion drwy ddarparu addysg arall.
Gwybodaeth bellach
Mae’r ddogfen ganllawiau “Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion”, a gyhoeddwyd yn 2019, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-11/gwahardd-o-ysgolion-unedau-cyfeirio-disgyblion.pdf
Mae gwybodaeth ddefnyddiol arall ar gael o dan yr adran addysg ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.llyw.cymru/ymddygiad-a-disgyblaeth-yn-yr-ysgol
Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth hefyd ar gael oddi wrth Snap Cymru – www.snapcymru.org
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru