Cynnwys

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â derbyn i ysgol, gwaharddiadau o ysgol neu anghenion addysgol arbennig, rydym wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau ar wahân, penodol, sy’n edrych ar y pynciau hyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Mae ein rôl o ran cwynion yn erbyn ysgolion yn gyfyngedig iawn.  Efallai y byddwn weithiau’n ymchwilio i sut mae awdurdod wedi ymdrin â gweithdrefn gwyno neu ei hadolygu, ond nid y materion hanfodol y tu ôl i’r gŵyn.

Er bod modd i ni edrych ar gŵyn fod cyngor lleol (fel rhan o’i swyddogaeth fel Awdurdod Addysg Lleol), er enghraifft, wedi cymryd gormod o amser i adolygu cwyn yn erbyn proses gwyno ysgol, ni allwn edrych ar y materion a godwyd yn wreiddiol yn y gŵyn i’r ysgol ei hun.

Oherwydd natur gyfyngedig ein pwerau o ran materion yn ymwneud ag ysgolion, byddem yn eich annog i gysylltu â ni cyn anfon cwyn ysgrifenedig atom i weld a ydym yn debygol o allu edrych ar eich cwyn.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn edrych ar gwynion yn erbyn unrhyw gamau a gymerwyd gan ysgol neu ei gorff llywodraethu o ran dysgu, ymddygiad, y cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu. Mae hyn yn golygu bod y tebygolrwydd y bydd gennym unrhyw bwerau i ymchwilio i gŵyn yn erbyn ysgol (heblaw am y materion cyfyngedig iawn y cyfeiriwyd atynt uchod neu ynghylch unrhyw faterion penodol sydd wedi cael sylw yn ein taflenni ffeithiau ar wahân a grybwyllwyd uchod) yn isel.

 

Gwybodaeth bellach

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i gyrff llywodraethu ysgolion ar strwythur trefn gwyno ffurfiol. Mae copi o’r canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth  Cymru yn:  https://www.llyw.cymru/gweithdrefnau-cwyno-ysgolion-canllawiau.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen