
Derbyn i Ysgolion ac Apeliadau
Cynnwys
Dylid cwyno ynghylch derbyn i ysgolion i’r Awdurdod Addysg Lleol perthnasol yn y lle cyntaf, ond gallwch gwyno ynghylch apeliadau derbyn i ysgolion yn syth i ni.
Yr hyn gallwn ei wneud
Gallwn:
- edrych ar gwynion ynghylch gweithdrefnau derbyn i ysgolion yng Nghymru, a’r broses apelio ar gyfer derbyn i ysgolion;
- edrych ar gwynion gan rieni sy’n credu bod Awdurdod Addysg Lleol wedi gweithredu ei weithdrefn derbyn i ysgolion yn annheg;
- edrych ar gwynion gan rieni sy’n credu bod Panel Apêl Derbyn i Ysgolion wedi ymddwyn yn amhriodol.
Os ydych yn dymuno cwyno i ni, cofiwch wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Yr hyn na allwn ei wneud
Ni allwn:
- gorfodi Awdurdod Addysg Lleol i gynnig lle mewn ysgol i’ch plentyn;
- mynd yn groes i benderfyniad a wnaed gan Banel Apêl Derbyn i Ysgolion – fodd bynnag, os ydym yn credu bod gwrandawiad y Panel yn amhriodol neu’n annheg, efallai y byddwn yn argymell bod Panel newydd yn clywed yr apêl;
- edrych i achosion derbyn neu apeliadau yng nghyswllt ysgolion Annibynnol.
Materion i gadw mewn cof
- Nid oes gan blentyn hawl absoliwt i le yn ysgol ddewisol y rhieni;
- Pan fydd mwy o geisiadau i fynychu ysgol na’r lle sydd ar gael, rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol ddefnyddio eu ‘meini prawf ysgolion gorlawn’ i flaenoriaethu’r ceisiadau. Yn gyffredinol, ni all fod mwy na 30 plentyn mewn dosbarth babanod;
- Mae Paneli Apêl yn anibynnol ar yr Awdurdod Addysg Lleol ac yn clywed achosion yr Awdurdod Addysg Lleol a’r rhieni;
- Mae rhaid i Baneli Apêl benderfynu a ddylai rhesymau’r rhieni dros fod eisiau i’w plentyn gael ei dderbyn i ysgol neilltuol droi’r fantol yn erbyn unrhyw anfantais i’r ysgol pe bai’n derbyn eu plentyn.
Gwybodaeth bellach
Rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol a Phaneli Apêl Derbyn i Ysgolion ystyried y Codau Statudol ar Dderbyn i Ysgolion ac Apeliadau. Gallwch lawrlwytho copïau o wefan Llywodraeth Cymru yn
https://llyw.cymru/y-cod-derbyn-i-ysgolion
https://llyw.cymru/y-cod-apelau-derbyn-i-ysgolion
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru