Cyflwyniad

Mae gan gynghorau ystod o ddyletswyddau a phwerau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd yn y gymuned. Mae’n rhaid iddynt weithio gyda sefydliadau eraill megis yr heddlu, i fynd i’r afael â’r problemau.

Fel landlordiaid, mae gan gynghorau a chymdeithasau tai ddyletswyddau penodol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo y maent yn eu rheoli.

Nid ydym yn ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallwn ond ystyried cwynion am sut mae cyngor neu gymdeithas tai yn ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:

  • baeddu gan gŵn, anifeiliaid anwes heb eu rheoli a swnllyd;
  • swn niwsans ar lefelau uchel a/neu yn ystod oriau afresymol;
  • camddefnyddio cyffuriau a niwsans sy’n gysylltiedig ag alcohol;
  • gwaredu sbwriel;
  • gweithredoedd o drais;
  • aflonyddu, gan gynnwys cam-drin a bygythiadau geiriol a chorfforol.

Gall rhai ymddygiadau fod yn drosedd a dylai’r heddlu ddelio â nhw.

Beth gallwch chi ei wneud

I roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, dylech gysylltu â’ch cyngor neu gymdeithas dai am gyngor, ac i ddod o hyd i beth gallant ei wneud.

Gallwch hefyd gysylltu â’r heddlu.

Os ydych yn anfodlon â sut mae cyngor neu gymdeithas dai yn delio â’ch adroddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch wneud cwyn ffurfiol.

Bydd angen i chi esbonio i’r cyngor neu’r gymdeithas dai pam rydych yn meddwl nad oedd eu gweithredoedd yn briodol.

Os ydych yn anfodlon â sut mae cyngor neu gymdeithas dai yn delio â’ch cwyn, gallwch gwyno i ni. Mae’n bwysig bod y cyngor neu’r gymdeithas dai wedi cael y cyfle i ddatrys materion cyn i chi gysylltu â ni.

Beth allwn ni ei wneud

Gallwn edrych ar sut y deliodd y cyngor neu’r gymdeithas dai â’ch adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn ystyried y canlynol:

  • a oes ganddo weithdrefnau ar waith i arwain staff ynghylch sut i gofrestru, ymchwilio, a monitro achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • a yw wedi esbonio’r gweithdrefnau, a sut y cofrestrir ac ymchwilir i adroddiadau;
  • a yw wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i reoli’r ymddygiad, gan gynnwys yr holl weithredoedd cyfreithiol;
  • a yw wedi gweithio gydag asiantaethau eraill i fynd i’r afael â’r problemau;
  • a yw wedi darparu cymorth i’r dioddefwyr o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol, wedi rhoi’r newyddion diweddaraf iddynt, ac wedi cymryd camau angenrheidiol i ddiogelu eu diogelwch;
  • a yw wedi delio â’r person sy’n achosi’r broblem yn brydlon.

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru