Cyflwyniad

Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol (“y Cod”) i gynghorwyr yn nodi’r safonau ymddygiad uchel y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl gan ei gynrychiolwyr etholedig.

Ein rôl ni ydy ystyried cwynion sy’n ymwneud ag achosion o aelodau awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a Phaneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn torri Cod eu hawdurdod.

Mae ein rôl yn hollbwysig o ran cefnogi Pwyllgorau Safonau pob awdurdod lleol i helpu cynghorwyr i gyrraedd y safonau ymddygiad sy’n bodloni disgwyliadau’r cyhoedd. Ein nod ydy cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau cywir a gwneud y defnydd cywir o adnoddau cyhoeddus, a chynnal hyder y cyhoedd mewn llywodraeth leol a’r broses ddemocrataidd ei hun. Nid ydy cynnal ymchwiliadau nad ydynt yn cefnogi’r buddion ehangach hyn er budd y cyhoedd.

Rydym yn credu’n gryf na ddylid defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig i ymchwilio i faterion dibwys neu rai sy’n cael effaith fach, neu ddim effaith o gwbl, ar y cyhoedd. Mae’n bwysig bod ein hymchwiliadau yn ymwneud â materion difrifol a allai danseilio’r berthynas rhwng cynghorwyr a’r cyhoedd maen nhw’n ei wasanaethu, megis llygredd, bwlio a chamddefnyddio pŵer mewn swydd gyhoeddus.

 

Y prawf dau gam

Mae ein proses yn gofyn am ddefnyddio prawf dau gam. Pan fyddwn yn fodlon bod cwyn wedi’i hategu gan dystiolaeth uniongyrchol y gallai fod achos o dorri’r Cod wedi bod, ystyrir budd y cyhoedd yn gyntaf wrth benderfynu a oes modd ymchwilio i gŵyn yn erbyn cynghorydd, ac a ddylid ymchwilio iddi. Rydyn ni’n ystyried budd y cyhoedd eto yn ystod ymchwiliad er mwyn gwneud yn siŵr y dylai barhau ac, am y tro olaf, wrth benderfynu a ddylid atgyfeirio mater at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru i’w ystyried.

Nid oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn eang ar gyfer budd y cyhoedd, ond mae wedi cael ei ddisgrifio fel “rhywbeth sydd o bwysigrwydd a diddordeb sylweddol i’r cyhoedd”. Mae budd y cyhoedd felly’n ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar y cyhoedd. Mae’n golygu mwy na rywbeth mae gan y cyhoedd ddiddordeb ynddo, neu fater sy’n effeithio ar unigolyn a neb arall (ond gallai’r mater effeithio’n fwy uniongyrchol ar yr unigolyn na’r cyhoedd yn ehangach).

Nid ydy cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn golygu poblogaeth gyfan Cymru o reidrwydd. Gall gyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd, megis cymuned fach neu grŵp buddiant.

Dyma’r ffactorau cyhoeddedig o ran budd y cyhoedd y gallwn eu hystyried:

  • pa mor ddifrifol ydy’r achos o dorri’r Cod
  • a ydy’r aelod wedi ceisio cael buddiant personol iddo’i hun neu rywun arall yn fwriadol ar draul y cyhoedd
  • ai amgylchiadau’r achos o dorri’r Cod ydy bod aelod wedi camddefnyddio sefyllfa o ymddiriedaeth neu awdurdod ac wedi achosi niwed i rywun arall
  • a oedd unrhyw ffurf ar wahaniaethu yn erbyn tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, anabledd, oedran, crefydd neu gred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rywiol y dioddefwr wedi ysgogi’r achos o dorri’r Cod.

 

Ystyriaethau

Wrth ystyried unrhyw o’r ffactorau uchod, gall yr ystyriaethau perthnasol gynnwys amgylchiadau’r gŵyn; i ba raddau oedd y cynghorwr yn gyfrifol, neu ar bwy oedd y bai am yr achos honedig o dorri’r Cod; a oedd yr ymddygiad honedig yn fwriadol a/neu wedi’i gynllunio, ac a ydy’r ymddygiad honedig wedi achosi niwed i berson, grŵp neu gorff arall neu wedi effeithio arnynt. Dylid hefyd ystyried unrhyw safbwyntiau a fynegir ynghylch yr effaith gan y sawl sy’n cwyno, neu unrhyw berson arall y mae’r ymddygiad honedig wedi effeithio arno. Gallai’r ystyriaethau eraill gynnwys:

  • a oes tystiolaeth yn profi bod yr aelod wedi ymddwyn yn yr un modd yn y gorffennol
  • a ydy’r Cynghorydd wedi bod yn destun unrhyw gwynion neu ymchwiliadau yn y gorffennol, neu wedi cael ei gyfeirio at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru am fater tebyg? A ydy’r ymddygiad honedig yn gyfredol, wedi digwydd mwy nag unwaith neu a oes tystiolaeth o ymddygiad yn gwaethygu?
  • a ydy’r ymchwiliad neu’r atgyfeiriad at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru yn ofynnol er mwyn cynnal hyder y cyhoedd mewn aelodau etholedig yng Nghymru
  • a fyddai’r ymchwiliad neu’r atgyfeiriad at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru yn ymateb cymesur. Ystyried a yw’n debygol y byddai’r achos o dorri’r Cod yn arwain at roi cosb i’r aelod, ac a fyddai’r defnydd o adnoddau wrth gynnal ymchwiliad neu wrandawiad gan Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru yn cael ei ystyried yn ormodol o’i gymharu ag unrhyw gosb debygol

Ni ddylid penderfynu ar fudd y cyhoedd ar sail adnoddau yn unig, ond mae’n ystyriaeth berthnasol wrth wneud asesiad cyffredinol. Dylid mabwysiadu safbwynt cytbwys, a bydd ystyried canlyniadau achosion blaenorol a ystyriwyd gan Bwyllgorau Dyfarnu ledled Cymru, a Phanel Dyfarnu Cymru, yn helpu i sicrhau hynny.

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ac mae’n bosibl na fydd pob ffactor yn berthnasol i bob achos.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru