Gorfodaeth Gynllunio
Cyflwyniad
Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion am Orfodaeth Gynllunio. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Y Cyngor yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei ardal (mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gwneud hyn). Mae awdurdodau cynllunio’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gweithredu ar amrywiol faterion cynllunio. Rhaid iddynt weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn polisi’r awdurdod ei hun. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn yn erbyn awdurdod cynllunio.
Yr hyn gallwn ei wneud
Byddwn yn gallu:
- edrych ar gŵyn eich bod wedi cael eich effeithio gan dorri rheolau cynllunio os credwch na ddeliodd y Cyngor â materion yn iawn;
- cadarnhau bod Cyngor wedi cymryd camau gorfodi yn deg a thrwy ddilyn y rheolau;
- edrych i faterion fel oedi afresymol yn asesu achos neu’n gweithredu, lle na chafodd amodau cynllunio eu dilyn, methu â chadw cofnodion priodol a chyfathrebu gwael;
- gofyn i’r Cyngor egluro ei benderfyniad i gymryd camau gorfodi er mwyn sicrhau bod swyddogion wedi ystyried yr holl ffeithiau sy’n berthnasol.
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni fyddwn yn gallu:
- gorfodi Cyngor i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau gorfodi.
- ni fyddwn fel arfer yn ymchwilio i gŵyn bod camau gorfodi wedi cael eu cymryd yn eich erbyn a chithau â hawl i apelio.
Materion i gadw mewn cof
Mae cryn dipyn o ddatblygu’n gallu digwydd heb ganiatâd cynllunio felly efallai na fydd angen i gyngor weithredu.
Gall cyngor ddewis peidio â chymryd camau gorfodi os yw’n meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i roi cynnig ar ddulliau anffurfiol o ddelio â phroblemau cynllunio. Fel rheol, byddai’n cymryd camau gorfodi ffurfiol yn niffyg unrhyw ateb arall.
Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i ystyried y posibilrwydd o ofyn i ddatblygwyr gyflwyno ôl-gais os yw’r caniatâd cynllunio wedi cael ei dorri.
Efallai y bydd gan y cyngor bolisi gorfodaeth ysgrifenedig a dylech gael darllen y polisi hwn, neu efallai y bydd ar ei wefan.
Gwybodaeth bellach
Gall Cymorth Cynllunio Cymru roi gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion cynllunio i chi. Gallwch eu ffonio ar 029 2048 5765 neu fynd i’r we yn https://www.planningaidwales.org.uk
Mae gwybodaeth am gynllunio hefyd ar gael yn https://www.planningportal.gov.uk/wales/public
Bydd gwefan y Cyngor ei hun hefyd efallai’n cynnwys gwybodaeth am rai materion cynllunio.
Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru