Deddf Hawliau Dynol
Cyflwyniad
Mae’r Ddalen Ffeithiau hon yn ymwneud â Deddf Hawliau Dynol (DHD) 1998 a sut y mae’n ymwneud â’n gwasanaeth. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Sut y mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn effeithio ar ein gwaith. Rydym yn ystyried cwynion am gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth ar ran
cyrff cyhoeddus sy’n achosi caledi neu anghyfiawnder i aelodau’r cyhoedd. Wrth benderfynu a ddylai ymchwilio i gŵyn, rhaid i ni ystyried a yw’r awdurdod cyhoeddus dan sylw wedi gweithredu mewn ffordd sy’n anghytûn â’r hawliau a nodir yn y DHD. Sefydlwyd yr hawliau hyn yn gyntaf gan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac maent yn hysbys gan gyfres o ‘Erthyglau’.
Yr hyn gallwn ei wneud
Os ydych chi’n credu bod penderfyniad gan awdurdod cyhoeddus wedi effeithio ar eich hawliau dynol, efallai y gallwn edrych ar eich cwyn.
Gallwn:
- Ystyried a yw’n ymddangos bod yr awdurdod wedi diystyru’r DHD ac a fyddai hynny’n gyfystyr â chamweinyddu;
- Gofyn i’r awdurdod ailystyried ei benderfyniad yn seiliedig ar y safbwynt hwn;
- Argymell y camau y mae angen i’r awdurdod eu cymryd i unioni pethau.
Y cwynion mwyaf cyffredin yw nad yw awdurdod cyhoeddus wedi ystyried –
- Erthygl 2: Yr hawl i fywyd – e.e. darparu triniaeth i achub bywyd, gwrthod meddyginiaeth sy’n achub bywyd, peidiwch â dadebru penderfyniadau
- Erthygl 3: Yr hawl i beidio â dioddef artaith neu driniaeth annynol neu ddiraddiol – e.e. materion yn ymwneud ag urddas mewn unrhyw sefyllfa gofal
- Erthygl 5: Yr hawl i ryddid – e.e. gallu pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain neu faterion gallu meddyliol
- Erthygl 8: Yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol – amodau tai neu’r hawl i fyw’n annibynnol.
Yr hyn nad ydynt yn gallu ei wneud
Ni allwn:
- Penderfynu bod amodau’r DHD wedi’u torri; lle’r llysoedd yw penderfynu hyn (gweler mwy o wybodaeth am gyrff eraill a all eich helpu).
Materion i gadw mewn cof
- Os rydym yn cadarnhau eich cwyn, efallai y byddwn yn gwneud argymhellion i’r awdurdod am yr hyn y dylai ei wneud. Gallai hyn gynnwys cais i gynnal asesiad newydd o’ch amgylchiadau neu i ailystyried eich cwyn.
- Nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu eiriolwr arall i gyflwyno cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn ddi-dâl ac yn ddiduedd, ac rydym yn ceisio gofalu bod y broses mor hawdd â phosibl i achwynwyr ei dilyn.
Gwybodaeth bellach
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:
- Gall Cwynion Cymru eich cynghori am bwy i siarad â hwy i gyflwyno eich cwyn. Efallai y gallent hefyd gynnig cyngor i chi am wasanaethau eiriolaeth priodol a all helpu â’ch cwyn – 0300 123 1299 neu e-bost: holwch@cwynioncymru.org.uk;
- Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) yn hybu ac yn monitro Hawliau Dynol, ac yn amddiffyn, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb. Bydd yn ymgymryd ag achosion prawf i sicrhau newid ehangach ond ni fydd bob amser yn gallu darparu cefnogaeth i unigolion. Mae CCHD yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb i gynorthwyo unigolion. I dderbyn cyngor, gallwch gysylltu â hwy
drwy ffonio 0800 800 0082 neu drwy ysgrifennu at FREEPOST, Equality Advisory
Support Service, FPN4431; - Cyngor ar Bopeth Cymru – 08444 77 20 20 neu https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Cysylltu â ni
Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru