CAFCASS CYMRU
Cyflwyniad
Mae CAFCASS CYMRU yn sefydliad o fewn Llywodraeth Cymru sy’ngweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n gysylltiedig ag achosion llys teulu. Mae’n annibynnol ar y llysoedd, y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdodau addysg ac iechyd ac asiantaethau tebyg. Mae’n darparu cyngor a chymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar blant, yn diogelu plant ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn llysoedd teulu fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu budd gorau.
Yr hyn gallwn ei wneud
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd weinyddol y mae CAFCASS CYMRU yn delio â’ch achos, gallwch gwyno wrthym ni am y broses honno.
Gallwn:
- Edrych ar unrhyw fethiannau gweinyddol yn y ffordd y mae CAFCASS Cymru wedi delio â chi a’ch achos;
- ystyried cwyn am sut mae CAFCASS CYMRU wedi dilyn ei drefn gwyno.
Yr hyn na allwn ei wneud
Ni allwn:
- ystyried unrhyw faterion gohirio, disgyblu neu unrhyw faterion personél am aelodau o staff CAFCASS CYMRU;
- cymryd unrhyw gamau o ran cychwyn neu gynnal achos cyfreithiol gerbron llys barn. Os ydych chi’n anfodlon â phenderfyniad y Llys, yna efallai y byddwch yn awyddus i ystyried cymryd cyngor cyfreithiol;
- edrych ar neu cymryd camau yn ôl unrhyw adroddiad a gaiff ei baratoi at ddibenion achos llys.
Materion i gadw mewn cof
- Os ydych chi’n anhapus â chynnwys adroddiad CAFCASS CYMRU sydd wedi’i baratoi at ddibenion achos llys, yna dylech fynegi unrhyw bryderon am yr adroddiad yn yr achos Llys.
Gwybodaeth bellach
Efallai yr hoffech chi ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:
- CAFCASS CYMRU – https://llyw.cymru/cafcass-cymru
- Comisiynydd Plant Cymru, sy’n cynghori plant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanynt os ydynt yn meddwl eu bod wedi cael eu trin yn annheg – https://www.complantcymru.org.uk/
- Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru – http://www.meiccymru.org
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru