Gofal Iechyd a ddarperir y tu allan i’r GIG
Cyflwyniad
Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro sut yr ymdrinnir â chwynion ynghylch gofal a thriniaethau a ddarperir mewn Ysbytai Annibynnol (preifat) neu gan Ddarparwyr Iechyd Annibynnol. Mae hefyd yn rhoi manylion ynghylch sut gallwn eich cynorthwyo os ydych chi’n byw yng Nghymru fel arfer ac yn cael triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn ysbyty y tu allan i Gymru.
Dylid ei ddarllen ynghyd â’n taflen ffeithiau ar Gwynion cyffredinol am y GIG â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Yr hyn gallwn ei wneud
Rydym yn ystyried cwynion ynghylch gofal a thriniaethau a ddarperir gan y GIG yng Nghymru a/neu a gyllidir gan y GIG yng Nghymru. Ni allwn ystyried cwynion am unrhyw ofal iechyd preifat rydych chi wedi talu amdano eich hun, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig iawn (gweler isod). Yn gyffredinol, yr achosion a ystyrir gennym yw rhai lle mae claf wedi cael ei drin yn un o Feddygfeydd, Clinigau neu Ysbytai’r GIG (gan gynnwys Meddygon Teulu, deintyddion, offthalmolegwyr a fferyllwyr) yng Nghymru. Gall hyn hefyd gynnwys triniaeth gan y GIG yn unrhyw le yn y DU os telir GIG Cymru amdano (gelwir hyn yn aml yn ‘ofal a gomisiynir’, a gall gael ei ddarparu gan un o sefydliadau’r GIG neu gwmni preifat, ‘Darparwr Iechyd Annibynnol’). Os gyllidir y driniaeth yn y pendraw gan GIG Cymru yna gallwn ystyried cwynion am y gofal hwnnw, fel arall ni allant.
Fodd bynnag, gallwn ystyried rhai cwynion am ofal iechyd rydych chi wedi talu amdano eich hun, ond dim ond os bodlonir yr holl brofion canlynol:
- Rydych chi wedi cael rhywfaint o driniaeth gan y GIG am y broblem ar gyfer y mater y cwynwyd amdano (talwyd amdano neu ei gomisiynwyd gan GIG Cymru)
- Rydych chi wedi talu’n breifat am driniaeth ar ryw adeg am yr un mater
- Ni allwn ymchwilio’n briodol i’r gŵyn am GIG heb edrych hefyd ar yr elfen gyllido’n breifat.
Os oes gennych bryderon ynghylch y gofal a gawsoch gan ddarparwr GIG yn unrhyw le yn y DU, mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich cynorthwyo; naill ai drwy ystyried y gŵyn ei hun (fel yr uchod, os gyllidir y gofal gan GIG Cymru) neu drwy ymgynghori ag Ombwdsmon Statudol arall yn y DU sydd â’r awdurdod yn yr ardal lle darparwyd y gofal. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol os ydych chi’n byw gerllaw’r ffin rhwng Cymru a Lloegr a bod eich gofal yn aml yn cael ei ddarparu y tu allan i Gymru (ond wedi’i gomisiynu gan GIG Cymru).
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Ni allwn ystyried cwynion ynghylch gofal iechyd preifat rydych chi wedi talu amdano eich hun, nac am ofal iechyd preifat y mae yswiriant gofal iechyd preifat wedi talu amdano, lle mae hyn yn cynnwys eich triniaeth gyfan (gweler uchod) – boed a ddarparwyd yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.
Os byddwch yn cael triniaeth frys gan y GIG mewn ardaloedd eraill yn y DU ac am gwyno am hynny, yn gyntaf oll, bydd angen i chi gwyno’n uniongyrchol wrth yr ysbyty neu’r darparwr iechyd lle cawsoch y driniaeth. Os ydych yn dal yn anfodlon, efallai y bydd modd i chi gwyno wrth yr Ombwdsmon sydd ag awdurdodaeth dros y Sir honno.
Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gyda thriniaeth breifat (na chymerodd GIG Cymru unrhyw ran ynddo) neu os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gwyno’n uniongyrchol wrth y darparwr iechyd preifat. Mae gan nifer ohonynt drefn gwyno debyg i’r hyn a ddefnyddir yn y GIG. Mae’n arferol i’r darparwr preifat ymateb yn y lle cyntaf. Os ydych yn dal yn anfodlon ar ôl cael yr ymateb hwnnw, efallai y bydd modd i chi fwrw ymlaen â’r achos gyda ISCAS (gweler isod) neu drwy’r Llysoedd, ond dylech ymgynghori â chyfreithiwr cyn gwneud hynny.
Materion i gadw mewn cof
Mae’r trefniadau ar gyfer comisiynu gofal iechyd y tu allan i’r GIG yng Nghymru yn aml yn gymhleth, ac efallai nad yw’n glir i chi ar yr adeg y mae eich anghenion gofal yn cael eu bodloni pwy sy’n gyfrifol am dalu am y gofal hwnnw. Dylai’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n gwasanaethu’r ardal rydych yn byw ynddi allu rhoi gwybod i chi ai ef sy’n talu’r costau.
Bydd angen i ni farnu a oedd y driniaeth/ gofal a gawsoch o safon briodol ac yn dderbyniol ar gyfer y lleoliad lle gafodd ei ddarparu. Er enghraifft, ni fyddai gofal a ddarparwyd mewn ysbyty cyffredinol yn cael ei farnu yn erbyn y safonau a fyddai’n berthnasol mewn uned arbenigol.
Gwybodaeth bellach
Gall eich Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) ddarparu help a chefnogaeth i chi pan fyddwch yn gwneud y gŵyn am ofal a gyllidir gan GIG Cymru, a hynny am ddim. Gellir cael manylion cyswllt eich CIC leol yn eich llyfr ffôn lleol. Neu, gallwch eu cael ar wefan Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn: www.wales.nhs.uk/sitesplus/899/cymraeg neu drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0845 6447814.
Mae’n bosib y gall eich Bwrdd Iechyd eich helpu hefyd. Gellir gweld manylion cyswllt eich Bwrdd Iechyd lleol chi yn: www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cyfeiriadur
Gall y Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (ISCAS) ystyried cwynion gan gleifion ynghylch rai darparwr gofal iechyd preifat. Fodd bynnag, dim ond â chwynion am y darparwyr preifat hynny sydd wedi ymrwymo’n wirfoddol i gynllun ISCAS y mae’n gallu ystyried. Gellir canfod mwy o wybodaeth yma: www.iscas.org.uk neu drwy ffonio 020 7536 6091.
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru