Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.ombudsman.wales / www.ombwdsmon.cymru
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.ombudsman.wales / www.ombwdsmon.cymru.
Defnyddio’r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd testun-i-lais
- gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- newid maint testun
- cael gafael ar gynnwys y wefan drwy chwyddo i mewn hyd at 400%.
I alluogi rhai o’r dewisiadau hyn, rydym wedi gosod bar offer ReachDeck, fel y gallwch chi droi deunydd ar-lein yn ddeunydd sain ar ein gwefan. Gallwch chi ddod o hyd i’r bar offer ar hyd y rhes sydd ar frig y wefan.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r dewisiadau hyn drwy eich rheolyddion porwr gwe. Mae gwahanol borwyr yn defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer newid y gosodiadau hyn, felly bydd angen i chi fynd i’r adran ‘Help’ ar eich porwr i gael gwybod sut i wneud hyn.
Mae ein gwefan wedi’i sefydlu i weithio gyda fersiynau cyfredol o’r holl borwyr gwe poblogaidd, fel Microsoft Edge, Firefox, Google Chrome, Opera a Safari. Dylech chi fod yn gallu gweld ein gwefan ar eich ffôn neu ar eich tabled.
Rydym bob amser yn gweithio i wneud testun y wefan yn haws ei ddeall.
Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn hawdd ei defnyddio os ydych chi’n anabl.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hygyrch yn llwyr:
- Nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
ffoniwch 0300 790 0203 (dewis 3)
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â:
ffoniwch 0300 790 0203 (dewis 3)
Byddwn yn ystyried eich cais a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod.
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae ein gwefann yn cydymffurfio’n rhannol â fersiwn 2.2, safon AA, Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau wedi’u rhestru isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Amlinellwn isod faterion hygyrchedd sy’n weddill yn ymwneud â chynnwys ein gwefan. Esboniwn hefyd pa gamau rydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Nid yw nifer o ffeiliau PDF hanesyddol ar ein gwefan yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- Teitlau PDF: yn ôl WCAG 2.4.2 – Teitl y dudalen, dylai dogfennau PDF gynnwys teitlau sy’n disgrifio testun neu ddiben y dudalen. Mae teitlau yn helpu defnyddwyr i ddeall y pwnc heb orfod darllen y ddogfen gyfan. Nid yw rhai ffeiliau PDF ar ein gwefannau yn cynnwys teitlau.
- Testun eiledol: Efallai na fydd pobl sydd wedi colli eu golwg yn gweld delwedd yn glir ar dudalen. Yn ôl WCAG 1.1.1 – Cynnwys nad yw’n destun, rhaid cael testun amgen i rannu’r wybodaeth. Rhaid i’r testun amgen ddisgrifio’r wybodaeth neu’r swyddogaeth a gynrychiolir gan y ddelwedd. Mewn dogfennau PDF, rhaid tagio delweddau yn gywir gyda thestun amgen. Nid yw rhai ffeiliau PDF ar ein gwefannau yn cynnwys testun amgen.
Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiweddaru rhai ffeiliau PDF ar ein gwefan (rydym yn rhoi rhagor o fanylion isod). Rydym hefyd yn cynnal hyfforddiant i sicrhau bod gan bob dogfen PDF y byddwn yn ei chreu yn y dyfodol nodweddion hygyrchedd llawn.
Baich anghymesur
Er bod ein gwefan bellach yn gwbl hygyrch, efallai na fydd yn bosibl sicrhau bod yr holl ffeiliau PDF hanesyddol ar y wefan yn gwbl hygyrch hefyd.
Er ein bod wedi cymryd camau ers 2023 i leihau nifer y dogfennau PDF ar y wefan a’u disodli gyda fersiynau HTML, erys 482 o ddogfennau PDF ar bob un o’n gwefannau (Cymraeg a Saesneg), a chyfanswm o 964 o ddogfennau PDF (ar 19/02/2025). Nid oes gennym y gallu i ddiweddaru’r holl ddogfennau hyn. Credwn y byddai hyn yn gyfateb â baich anghymesur o fewn ystyriaeth y rheoliadau hygyrchedd.
Lansiwyd ein gwefan newydd yn 2024, gan gwblhau nodweddion terfynol a thrafferthion hygyrchedd ym mis Rhagfyr. Yn dilyn hyn, gwnaethom nodi 30 o ddogfennau PDF i’w diweddaru fel y flaenoriaeth uchaf. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Dogfennau yn ymwneud â sut i gwyno i ni a pha gymorth y gallwn ei gynnig i ddileu rhwystrau i gwyno (ffurflen gwyno, taflenni a chanllawiau allweddol)
- Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Diweddar, Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, Adroddiad y Gymraeg Blynyddol a’r Adroddiad Cynaliadwyedd Blynyddol
- Cynlluniau Strategol a Chynlluniau Busnes
- Polisi’r Gymraeg
- Dogfennau allweddol yn ymwneud â’n gwaith ar ei Liwt ei Hun a’n gwaith fel Awdurdod Safonau Cwynion Cymru
- Canllawiau allweddol ar y Cod Ymddygiad ar gyfer cynghorwyr yng Nghymru
- Canllawiau allweddol ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- Unrhyw ddogfennau PDF sydd wedi’u lanlwytho i’r wefan o fis Rhagfyr 2024 ymlaen.
Ni wnaethom ddiwygio ein dogfennau PDF Hawdd eu Deall gan fod darparwr allanol yn creu y dogfennau hyn ar ein cyfer, y mae gofyn iddynt sicrhau eu bod yn bodloni gofynion hygyrchedd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw ddogfennau PDFs neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn parhau i leihau nifer cyffredinol y dogfennau PDF ar ein gwefan, gyda’r nod o gyflawni gostyngiad o 35% erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Byddwn hefyd yn cynnal hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar wella ein gallu i wneud ein dogfennau PDF yn gwbl hygyrch.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn yn wreiddiol ar 12 Mawrth 2024.
Gwiriodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth fersiwn flaenorol o’r wefan (www.ombudsman.wales) ar 26 Chwefror 2024 yn erbyn fersiwn 2.2, safon AA, Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
Adolygwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 12 Mawrth 2025.
Bydd yn cael ei adolygu nesaf erbyn 12 Mawrth 2026.