Mae gennym nifer o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth sy’n esbonio sut rydym yn cyfathrebu â sefydliadau lle rydym yn rhannu cyfrifoldebau gyda nhw, i sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon gyda’n gilydd. Mae’r egwyddorion cyffredinol sy’n sail i’n cytundebau yn cynnwys cydnabod cyfrifoldebau statudol ein gilydd a pharchu statws annibynnol ein gilydd i gydweithio a chydweithredu lle bo hynny’n berthnasol ac yn briodol.
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
- Delio gyda Hawliau Gwybodaeth – Set o egwyddorion cytunedig rhwng Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Cytundeb rhwng Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Heddlu Dyfed Powys
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru