Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Sefydlwyd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2006 gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005. Diwygiwyd y Ddeddf hon yn 2019 i ddod yn Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”). Y Goron sy’n penodi ‘Ombwdsmon’ ac mae’r Ombwdsmon presennol, Michelle Morris, wedi bod yn ei swydd ers mis Ebrill 2022.
Rôl OGCC yw:
- ystyried cwynion bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru;
- ystyried cwynion bod cynghorwyr Cymru wedi torri eu Cod Ymddygiad; a
- gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad o fewn llywodraeth leol ledled Cymru.
Mae pob ymchwiliad yn annibynnol ac yn cael ei gynnal yn breifat. Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw corff cyhoeddus wedi gweithredu yn briodol ac wedi bod yn deg yn ei driniaeth, a phan fydd pethau wedi mynd o’u lle, caiff argymhellion eu gwneud i unioni pethau.
Rhoddodd Deddf 2019 bwerau ychwanegol i’r Ombwdsmon ymchwilio lle gallai fod methiannau systemig yn y gwasanaeth, hyd yn oed heb i gŵyn ddod i law. Mae’r rhain yn cael eu galw yn ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ a gallwn ymgymryd â’r rhain os yw ein meini prawf yn cael eu bodloni ac os yw hynny er budd y cyhoedd.
Crëwyd yr Awdurdod Safonau Cwynion hefyd o dan Ddeddf 2019 a’i nod yw ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus. Tasg yr Awdurdod Safonau Cwynion yw gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus o fewn ei awdurdodaeth i:
- gefnogi ymdrin â chwynion yn effeithiol
- casglu a chyhoeddi data
- darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol
Michelle Morris, Ombwdsmon
Roeddwn wrth fy modd i ymgymryd â rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2022.
Cyn i mi ddod yn Ombwdsmon, bûm yn gweithio ym maes datblygu cymunedol a llywodraeth leol am bron i 35 mlynedd mewn rolau corfforaethol ac arwain. Roedd hyn yn cynnwys nifer o swyddi uwch mewn llywodraeth leol, yng Nghymru a’r Alban, fel Cynorthwyydd, Dirprwy ac yna Prif Weithredwr.
Ar hyn o bryd rwy’n rhan o’r Grŵp Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, gan weithio ar y cyd ag Ombwdsmon ar draws y DU.
Rwy’n dod yn wreiddiol o Sir Benfro a dychwelais i’r Sir yn ddiweddar i fyw. Ar ôl mynychu ysgolion lleol astudiais ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Cranfield a Phrifysgol Morgannwg ac mae gennyf MSc. mewn Marchnata ac MBA.
Mae’r gwaith a wnawn yn OGCC yn rhan bwysig o Sector Cyhoeddus Cymru ac yn darparu gwasanaeth annibynnol a diduedd i ystyried methiannau wrth ddarparu gwasanaethau a honiadau o dorri Cod Ymddygiad y Cynghorwyr. Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn ac yn gwneud cyfraniad pwysig at wella gwasanaethau cyhoeddus.
Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Gweithredol - Gwaith Achos a Chyfreithiol
Magwyd Katrin yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru, a mynychodd Brifysgol Sheffield Hallam lle enillodd radd BA yn y gyfraith. Yn 1996, cafodd ei derbyn fel Cyfreithwraig a gweithiodd fel cyfreithwraig llywodraeth leol cyn iddi ymuno â swyddfa’r Ombwdsmon fel Ymchwiliwr yn 2001. Ers hynny, mae Katrin wedi gweithio swyddi rheoli yn y swyddfa a bellach yn Brif Gynghorwr Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau OGCC.
Mae rolau eraill Katrin wedi cynnwys bod yn aelod o Gyngor Cyfiawnder Gweinyddol y DU, yn Gadeirydd o Grŵp Buddiant Cyfreithiol Cymdeithas yr Ombwdsmon, ac yn Gomisiynydd Dros Dro ar gyfer Safonau Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon, gan ddyfarnu achosion lle mae cynghorwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi methu â chydymffurfio â’u Cod Ymddygiad.
Mae Katrin yn ymddiriedolwr i Age Connects Castell-nedd Port Talbot ac yn Aelod o Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Aelodau'r Tîm Rheoli
Panel Ymgynghorol a Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Panel Ymgynghorol yn fforwm anstatudol a’i brif rôl yw cefnogi’r Ombwdsmon wrth arwain y swyddfa a’i llywodraethu’n dda.
Mae’r Panel Ymgynghorol yn rhoi cyngor a chymorth penodol i’r Ombwdsmon ar:
- gweledigaeth, gwerthoedd a dibenion;
- cyfeiriad strategol a chynllunio;
- perfformiad gweithredol, atebolrwydd a chyflawni
Hefyd, mae’r Panel Ymgynghorol yn cynnig persbectif allanol i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion.
Cynghori yn unig yw gwaith y Panel Ymgynghorol, ac nid yw’n gwneud penderfyniadau drwy ei hawl ei hun.
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Ombwdsmon drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynnol yw’r sicrwydd ynghylch llywodraethu, rheoli risg, amgylchedd rheoli a didwylledd datganiadau ariannol a’r adroddiad blynyddol.
Panel Cynghori ac Aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg