Gallwn ni ond eich helpu os yw eich cwyn yn ymwneud â:
- gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- cynghorwyr yn torri’r cod ymddygiad yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae sefydliadau eraill a allai eich helpu.
Cliciwch yma am restr o gynlluniau Ombwdsmyn eraill.
Dyma wybodaeth am sut i gwyno am:
Efallai y bydd y Comisiwn Elusennau yn gallu helpu.
Efallai y bydd Cyngor ar Bopeth neu eich Safonau Masnach lleol yn gallu helpu. Efallai bod Ombwdsmon perthnasol hefyd.
Efallai y bydd yr Ombwdsmon Ynni yn gallu helpu.
Efallai y bydd yr Ombwdsmon Ariannol yn gallu helpu.
Ar gyfer materion Pensiwn, ymwelwch â’r Ombwdsmon Pensiynau.
Gallwch wneud cwynion am landlordiaid preifat i’r Ombwdsmon Tai.
I gwyno am werthwyr tai, gallwch gysylltu â naill ai’r Ombwdsmon Eiddo neu’r Cynllun Iawndal Eiddo.
Efallai bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn gallu helpu.
Efallai y bydd yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol yn gallu helpu.
Cysylltwch â’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol.
Cysylltwch â’r Comisiynydd Safonau.
Efallai y bydd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn gallu helpu.
Efallai y bydd yr Ombwdsmon Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn gallu helpu. Gallwn edrych ar gwynion am ofal iechyd a ddarperir mewn carchardai gan GIG Cymru.
Ar gyfer gofal iechyd a ariennir yn gwbl breifat, efallai y bydd y Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol yn gallu helpu.
Gallwch wneud cwynion deintyddol preifat i’r Gwasanaeth Cwynion Deintyddol.
Gallwch wneud cwynion am driniaeth llygaid preifat i’r Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol.
Archwilio Cymru yw’r sefydliad priodol ar gyfer cwynion o’r fath.
Efallai y bydd yr Ombwdsmon Cyfathrebu yn gallu helpu.
Cysylltwch â’ch AS lleol i gael eich cyfeirio ymlaen at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Efallai y bydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn gallu helpu.